Teyrnas Gwent

Arfbais Teyrnas Gwent

Roedd Teyrnas Gwent yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd yn gorwedd yn ne-ddwyrain y wlad gyda thiriogaeth debyg i'r hen sir Gwent.

Yn yr Oesoedd Canol rhannwyd Gwent yn ddau gantref, sef:

Weithiau mae Gwynllŵg yn cael ei chynnwys gyda Gwent.

Mewn rhai ffynonellau o'r Oesoedd Canol Diweddar, mae trydydd cwmwd neu arglwyddiaeth, ar y ffin rhwng Brycheiniog, Gwent ei hun a Swydd Henffordd, yn cael ei ychwanegu, sef

  • Ewias ('Ewias Lacy' yn nes ymlaen).

Cymhlethir ein darlun o Went yn yr Oesoedd Canol am fod y Normaniaid wedi creu sawl arglwyddiaeth yno, rhai ohonynt yn seiliedig ar hen unedau Cymreig ac eraill yn greadigaethau newydd. Daeth y rhan fwyaf o dir teyrnas Gwent yn rhan o'r hen Sir Fynwy ac wedyn yn rhan o'r sir newydd Gwent. Heddiw mae rhan ddwyreiniol yr hen deyrnas yn gorwedd yn y Sir Fynwy newydd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search